Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Ionawr 2017
Amser: 14.00 -
16.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3909
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC |
Tystion: |
Clarissa Corbisiero-Peters, Cartrefi Cymunedol Cymru
Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru
Peter Hughes, Y Cyngor Benthycwyr Morgeisi John Marr, Y Cyngor Benthycwyr Morgeisi |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Ann Marie Harkin Stephen Lisle Nick Selwyn Dave Thomas Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
Staff y Pwyllgor: |
Ann Marie Harkin Stephen Lisle Nick Selwyn Dave Thomas Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, a Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymdeithasau Tai, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Marr, Uwch Gynghorydd Polisi, Cyngor Benthycwyr Morgeisi, a Peter Hughes, Cymdeithas Adeiladu Principality / Cyngor Benthycwyr Morgeisi, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a nododd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sylfaenol o ddiogelwch yn y gymuned yng Nghymru yn hytrach na gweithredu ar argymhellion adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn unig. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cadarnhau ei adolygiad arfaethedig gyda Llywodraeth Cymru ac yn ailedrych ar y mater hwn pan fo’r Llywodraeth yn cyhoeddi’r adroddiad.
8.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli meddyginiaethau.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn nhymor y gwanwyn 2017.
9.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar, sef Adolygiad o Lywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2016-17 y Llyfrgell Genedlaethol yn nhymor yr hydref 2017.